Pais Dinogad's such a great nursery rhyme. It was found in the margins of the
Book of Aneurin, written around 1265AD, but is from much earlier - around 800AD.
Pais Dinogad sydd fraith, fraith,
O groen y bela y mae'i waith.
Chwi! Chwi ! Chwibanwaith.
Gwaeddwn ni, gwaeddant hwy - yr wyth gaeth.
Pan elai dy dad di i hela -
Gwaywffon ar ei ysgwydd, pastwn yn ei law -
Galwai ar gwn tra chyflym,
`Giff! Gaff! Dal, dal! Dwg, dwg!'
Fe laddai bysgod o'i gwrwgl
Fel y llada llew fân-filod!
Pan elai dy dad di i'r mynydd
Deuai ef ag un iwrch, un twrch coed, un hydd,
Un rugiar fraith o fynydd,
A physgodyn o readr Derwennydd.
Beth bynnag a gyrhaeddai dy dad â'i bicell -
Boed yn dwrch, yn gath goed, yn lwynog -
Ni ddihangai'r un oni bai'n nerthol ei adenydd.